Yn cyflwyno: Byddwch yn Glust, Byddwch yn Llais
“Nid yw’n cymryd llawer o amser, ond mae’n tynnu sylw at yr arwyddion pwysig i gadw llygad amdanyn nhw.”
Hoffech chi gynnal gweithdy?
Mae’r NSPCC yn cynnig gweithdy Bydd yn Glust, Bydd yn Llais wyneb yn wyneb neu ar-lein sy’n awr o hyd. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim. Os oes gan eich ysgol, clwb, grŵp cymunedol neu weithle ddiddordeb mewn cynnal gweithdy, anfonwch e-bost at ein Gwasanaeth Ymgyrchoedd Lleol. Cofiwch gynnwys enw a lleoliad eich sefydliad yn eich e-bost.
Sylwch, rydym yn gofyn am o leiaf 10 o bobl ym mhob sesiwn ac ni allwn warantu y bydd llefydd ar gael.
Ydych chi’n poeni am blentyn?
Os ydych chi’n poeni am blentyn, neu hyd yn oed os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â’n Llinell Gymorth i siarad ag un o’n cwnselwyr. Ffoniwch ni ar 0808 800 5000 neu anfon neges e-bost i help@nspcc.org.uk